AM YR APCC

Mae Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC) yn gwmni cyfyngedig drwy warant. Y Cadeirydd a bwrdd y Cyfarwyddwyr sy'n goruchwylio gwasanaethau'r APCC.

Mae'r APCC yn cynnig y gwasanaethau canlynol i’r aelodau:

  • Darparu gwybodaeth am faterion a deddfwriaeth sy'n ymwneud â pholisïau plismona cenedlaethol.
  • Ymgynghori â Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu er mwyn eu galluogi i ddatblygu safbwyntiau o ran polisïau ac ysgogi newid.
  • Hwyluso gwaith Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn arwain strwythurau llywodraethu cenedlaethol megis y Coleg Plismona, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, Bwrdd Diwygio a Thrawsnewid yr Heddlu a chyrff proffesiynol eraill yr heddlu (a chyrff tân ac achub).
  • Darparu amrywiaeth o gyfleoedd i aelodau ddod at ei gilydd i ddadlau a thrafod polisïau plismona cenedlaethol a chyfiawnder troseddol ac ymgysylltu ag uwch-randdeiliaid.
  • Helpu Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i rannu arferion a nodi ffyrdd o sicrhau arbedion effeithlonrwydd drwy gydweithio.
  • Cefnogi’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu hynny i ymgymryd â chyfrifoldebau llywodraethu tân ac achub a'u cyflawni.

 

Pam bod angen corff cenedlaethol i gynrychioli Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu?

Y ffordd orau i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu allu ysgogi newid yw drwy ddod ynghyd. Mae corff cenedlaethol yn helpu Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i wneud y gorau o'u gallu ar lefel genedlaethol, a gweithredu ar addewidion eu maniffesto. Mae gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu gyfraniad pwysig i'w wneud o ran y ffordd y caiff gwasanaethau plismona eu llywodraethu, megis yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol a Chorff Proffesiynol yr Heddlu. Mae'r APCC yn helpu Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i ddarparu'r arweinyddiaeth hon ar lefel genedlaethol. Drwy rannu arferion gorau a nodi cyfleoedd i weithio gyda'i gilydd, neu dalu am wasanaethau ar y cyd, mae'r APCC yn helpu Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i fod yn fwy effeithlon ac effeithiol. Os bydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn nodi rhwystrau wrth gyflawni eu cynlluniau lleol, bydd yr APCC yn cymryd camau cydlynol a all helpu i ddileu rhwystrau ar lefel genedlaethol.

 

Pwy yw aelodau'r APCC?

Mae pob un o'r 40 o Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn aelodau o'r APCC, yn ogystal ag Awdurdod Heddlu Dinas Llundain, Swyddfa'r Maer ar gyfer Plismona a Throseddu ar gyfer Awdurdod Llundain Fwyaf, Awdurdod Cyfunol Manceinion Fwyaf ac Awdurdod Heddlu Ynys Jersey. Mae gan nifer o'n Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu gyfrifoldeb statudol ar gyfer trefniadau llywodraethu tân ac achub (Comisiynwyr yr Heddlu, Tân a Throseddu). 

 

Sut y caiff gwasanaethau eu darparu gan yr APCC?

Croeso i adran Gymraeg gwefan Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC). Crëwyd yr adran hon ar gais y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru sy'n aelodau o'r APCC.

Ym mis Tachwedd 2016, mabwysiadodd Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ddull portffolio newydd, lle mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu wedi cael y cyfrifoldeb i arwain y gwaith o ddatblygu polisïau yn yr 20 o ardaloedd portffolio sydd newydd gael eu cyflunio. Mae'r rhestr lawn o ardaloedd portffolio, arweinwyr a dirprwy arweinwyr ar gael yn ein hardal portffolio

 

Rhagor o wybodaeth

Mae gwefannau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu lleol hefyd yn cynnwys rhagor o wybodaeth am gynlluniau'r Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ei flaenoriaethau a'i weithgareddau. Mae'r gwefannau hyn hefyd yn nodi gwybodaeth am strwythur eu staff, eu polisïau ac amrywiaeth o wybodaeth ariannol, gan gynnwys contractau, gwariant a gwybodaeth am eu treuliau a chofrestrau rhoddion/lletygarwch.

Mae gwefannau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu hefyd yn cynnwys dolenni i wefannau heddluoedd lleol, sy’n cynnwys mwy o wybodaeth am weithgareddau’r heddlu, sut i gysylltu â'r heddlu, tîm y prif swyddogion ac amrywiaeth o wybodaeth ariannol arall am yr heddlu, gan gynnwys y gofrestr rhoddion/lletygarwch ar gyfer prif swyddogion.Ar gyfer yr ardaloedd hynny lle y mae Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu, bydd y gwefannau lleol yn cynnwys yr un wybodaeth ar gyfer gwasanaethau tân ac achub.

Share