Mae Comisiynwyr Heddlu a Throsedd (CHTh) yn swyddogion etholedig, sy’n gyfrifol am gyfanswm plismona yn eu hardal heddlu. Maent yn gweithredu fel arweinydd lleol gweladwy yn y frwydr yn erbyn troseddau, gan ddarparu’r cysylltiad rhwng yr heddlu a chymunedau a gweithio er mwyn troi strategaethau plismona a lleihau troseddau yn gamau effeithiol.
Mae disgwyl i CHTh gadw at Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus, fel y penderfynir ac a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Nolan – ‘Egwyddorion Nolan’. Mae pob CHTh yn cyhoeddi eu Cod Ymddygiad eu hunain, ond mae’r CCHTh wedi llunio fframwaith moesegol, gan gynnwys Cod templed i CHTh ei fabwysiadu os dymunant.
Ym maeryddiaethau Llundain, Manceinion Fwyaf, Efrog a Gogledd Swydd Efrog a Gorllewin Swydd Efrog, mae swyddogaethau CHTh yn cael eu cyflawni gan ddirprwy feiri, a gan y maer yn Ne Swydd Efrog.
Cyfrifoldebau allweddol Comisiynydd Heddlu a Throsedd:
- Anghenion a chysylltiadau cymunedol – sicrhau bod anghenion cymunedol yn cael eu diwallu’n effeithiol, gwella cysylltiadau lleol drwy fagu hyder ac adfer ymddiriedaeth
- Partneriaethau – cydweithio hefo asiantaethau ar lefelau lleol a chenedlaethol er mwyn sicrhau dull unedig o atal a lleihau troseddau
- Cynlluniau Heddlu a Throsedd – gosod amcanion yr heddlu a throsedd ar gyfer eu hardal
- Gosod cyllideb – pennu cyllideb yr heddlu a phennu ei reoleiddio
- Cyfrannu at alluoedd plismona cenedlaethol a rhyngwladol – fel y nodir gan yr Ysgrifennydd Cartref
- Diogelwch cymunedol a chyfiawnder troseddol – cydlynu hefo partneriaid diogelwch cymunedol a chyfiawnder troseddol er mwyn unioni blaenoriaethau lleol
- Penodi’r prif gwnstabl – eu dwyn yn atebol am redeg yr heddlu, ac os oes angen, eu diswyddo nhw
Cyfrifoldebau ychwanegol
- Swyddogaethau cwyno – mae CHTh wedi cymryd rôl gryfach yn system gwynion yr heddlu, gan oruchwylio tair lefel cwynion
- Llywodraethu tân – Gall Comisiynwyr Heddlu a Throsedd fod yn gysylltiedig hefo’u hawdurdod tân ac achub lleol, neu gyflwyno achos busnes i’r Ysgrifennydd Cartref ymgymryd hefo llywodraethu gwasanaethau tân ac achub, er mwyn dod yn gomisiynwyr heddlu, tân a throsedd (CHTTh)
- Gwasanaethau comisiynu – Gall CHTh gomisiynu amrywiaeth o wasanaethau a chynlluniau gan gynnwys gwasanaethau dioddefwyr, lleihau aildroseddu, cynlluniau cyfeirio ieuenctid, a gwasanaethau cyffuriau ac alcohol
Cod Ymddygiad CHTh
Mae disgwyl i CHTh lynu at ‘Egwyddorion Nolan‘. Mae pob CHTh yn cyhoeddi eu Cod Ymddygiad eu hunain ac mae CCHTh wedi llunio fframwaith moesegol, a arweiniwyd ac a ddatblygwyd gan CHTh ac sy’n cynnwys cod templed i CHTh ei fabwysiadu os dymunant.
Rôl Swyddfeydd Comisiynwyr Heddlu a Throsedd
Mae swyddfeydd CHTh (SCHTh) yn amrywio o ran maint, strwythur a chyfluniad, gan adlewyrchu blaenoriaethau CHTh unigol a etholir ar wahanol fandadau lleol.
Rôl SCHTh ydy cynorthwyo swyddogaethau statudol CHTh, gan ganolbwyntio’n bennaf ar gynorthwyo cyflawniad o ran y Cynllun Heddlu a Throsedd lleol. Maent yn gyfrifol am sicrhau bod strategaeth y CHTh yn cael ei gweithredu’n effeithiol a defnydd effeithiol o adnoddau’r CHTh. Cydymffurfir â’r ystod lawn o ddyletswyddau a chyfrifoldebau statudol, a gosod a chynnal safonau ymddygiad uchel yn unol ag egwyddorion Nolan.
Gall pob CHTh sefydlu eu swyddfa yn unol â gofynion lleol a rhanbarthol. Efallai y bydd gan CHTh sydd hefo swyddogaethau a chyfrifoldebau ychwanegol (er enghraifft, CHTTh neu Unedau Lleihau Trais) aelodau staff ychwanegol sy’n arbenigo yn y meysydd hyn. Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i bob CHTh gyflogi Prif Weithredwr / Swyddog Monitro (PSG) a Phrif Swyddog Cyllid.
- Prif Weithredwr (PSG) – yn cynorthwyo a chynghori’r CHTh, gan sicrhau bod strategaeth y CHTh yn gweithredu’n effeithiol, yn cydymffurfio hefo dyletswyddau statudol, a chynnal safonau ymddygiad uchel. Y PSG hefyd ydy’r ‘Pennaeth Gwasanaeth Taledig’ a’i rôl ydy penderfynu faint o adnoddau sy’n angenrheidiol a faint o staff sydd eu hangen, er mwyn rheoli a chyflawni blaenoriaethau’r CHTh
- Prif Swyddog Cyllid – yn rheoli’r cyfrifoldebau ariannol ac yn sicrhau defnydd effeithlon o adnoddau